Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Chwefror 2018
Amser:
08.30 -
09.09
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 14 Mawrth 2018 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Penderfynodd y Rheolwyr Busnes y dylid trafod y materion hyn yn y papur ehangach ar y Rheolau Sefydlog, ac roeddent yn fodlon ar adael y cyfeiriad at adran 29 yn Rheolau Sefydlog 17.7 a 17.8 yn y tymor byr, er gwaethaf y ffaith bod adran 29 o'r Ddeddf wedi ei diddymu. Nododd y Llywydd y byddai angen i'r Pwyllgor Busnes ddychwelyd i fater d'Hondt pe na bai adolygiad eang o'r Rheolau Sefydlog yn cael ei gynnal.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r newid o ran y Gyllideb Ddrafft (ceir manylion yn Atodiad A i'r papur). Ni allai'r Rheolwyr Busnes gytuno ar unrhyw un o'r cynigion ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ac felly mae gofynion y Rheolau Sefydlog presennol ar gyfer dadl flynyddol yn parhau.